Llên + Comedi
Dydd Sadwrn, 20 Gorffennaf
12yp, Taith Tafarndai Dolgellau - Merfyn Wyn Tomos | cychwyn wrth gefn Y Stag / gwaelod y Bont Fawr
Yn dilyn llwyddiant sgwrs Merfyn Wyn Tomos am ei gyfrol Tai Tafarndai a Gwestai Dolgellau y llynedd, mae Merfyn yn barod i’ch tywys o gwmpas y dref. Dewch yn llu!
12yp, Dysgu efo Daval Donc | Bar Tŷ Siamas
Sesiwn ymarfer Cymraeg yng nghwmni’r tiwtor profiadol Nikolaz Davalan.
1yp, Holi perfedd Manon Steffan Ros, enillydd tlws y Carnegie | Ystafell Idris, Tŷ Siamas
Bydd Ffion Dafis yn holi’r awdures a’r dramodydd Manon Steffan Ros am yr hyn sy’n ei hysbrydoli. Â’i gwaith wedi’i drosi i ddeuddeg o ieithoedd bellach, bydd digon i’w drafod!
2yp “Rhwng Bethlehem a’r Groes” - Hel atgofion gyda Barry “Archie” Jones | Awditoriwm, Tŷ Siamas
Gruffydd Siôn Ywain sy’n holi un o gerddorion a chyfansoddwyr enwocaf Cymru. Yn dilyn cyhoeddi ei hunangofiant bydd Barry “Archie” Jones yn rhannu ei hanesion gyda ni.
3yp, Rhoi’r byd yn ei le gyda Clare Mackintosh | Stafell Idris, Tŷ Siamas
Sesiwn holi ac ateb efo’r awdures Clare Mackintosh, awdures rhyngwladol sydd bellach wedi gwneud Cymru yn gartref. A yw hyn wedi cael argraff ar ei gwaith?
3:30yp, Hud, lledrith, meddyginiaethau a’r byd sy’n ei chyfareddu | Awditoriwm, Tŷ Siamas
Ymweld â meddyginiaethau cynnar Cymru, y Tylwyth Teg, a pherthnasedd hyn heddiw. Sesiwn ddifyr gyda Bet Huws.
4yp, Bricsen o’r Wal Goch yn holi Ian Gwyn Hughes | Ystafell Idris, Tŷ Siamas
Cyfle unigryw i glywed Ywain Myfyr yn holi’r anfarwol Ian Gwyn Hughes am ei waith diflino gyda’r Gymdeithas Bêl-droed, a’i gyfraniad aruthrol i’r Gymraeg a Chymreictod.
5yp, Yr Uffern Fach | Ystafell Idris, Tŷ Siamas
Jess John sy’n cadw trefn ar Barry “Archie” Jones, Gruffydd Siôn Ywain, Aeron Pugh.
Nos Sul, 21 Gorffennaf
Noson Gomedi | Tŷ Siamas
Drysau’n agor 7:30yh, i gychwyn am 8yh
Noson gomedi dan ofal Caryl Burke yng nghwmni Hywel Pitts, Dilwyn Morgan, Katie Gill, Fflur Pierce a Gwion Llŷr Clarke.