Pleser mawr yw cyhoeddi y bydd Sesiwn Fawr Dolgellau yn cael ei chynnal ar benwythnos 17-19 o Orffennaf eleni, a datgelu dyluniadau newydd i’r ŵyl gan yr anhygoel Sioned Medi.
Yn wreiddiol o Ben Llŷn, mae Sioned bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd ar ôl graddio gyda Dosbarth Cyntaf mewn Tecstilau o Brifysgol Manchester Metropolitan. Penderfynodd symud yn ôl i Gymru i weithio ym myd teledu plant a chanolbwyntio ar ddarlunio, ac ym mis Chwefror 2019 derbyniodd le ar gwrs darlunio llyfrau i blant yng Nghanolfan Tŷ Newydd. Ers hynny mae Sioned wedi gweithio ar amryw o brosiectau dylunio gwahanol, gan gynnwys clawr albwm Geraint Løvgreen a’r Enw Da, celf podlediad ‘Siarad Secs’ BBC Sounds a logo cwmni theatr Criw Brwd ymysg eraill.
Cafodd Sioned ei dylanwadu gan y rhinweddau sydd yn gwneud Sesiwn Fawr yn ŵyl mor unigryw. Mae’r gerddoriaeth, y llenyddiaeth a’r dawnsio yn mynd law yn llaw gyda’r lleoliad ac mae’r tirwedd wedi ysbrydoli’r gwaith hefyd. Mae’r gwaith yn cyfuno’r byd celfyddydol a’r byd naturiol gan gynrychioli naws greadigol yr ŵyl.
“Mi ydw i wedi bod wrth fy modd yn meddwl am syniadau a dylunio gwaith celf yr ŵyl eleni” meddai Sioned. “Braf ydi gallu dychmygu fy ngwaith yng nghanol cyffro’r gigs ac o gwmpas y dref. Rwy’n hynod falch ac yn gwerthfawrogi’r cyfle i allu creu edrychiad newydd i un o wyliau mwyaf eiconig Cymru.”
Mae’r gwaith yn gweddu’r thema a grëwyd gan y dylunydd Dafydd Owain, ac yn defnyddio y ffont gwbl unigryw greodd i’r ŵyl.
Cadwch lygad am y dyluniadau arbennig ar ein tudalen Facebook, Twitter ac Instagram dros yr wythnosau nesaf!