Mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn falch o gyhoeddi y bydd yr ŵyl yn digwydd eleni ond ar ffurf rithiol.
Dros y misoedd diwethaf bu Pwyllgor trefnu’r Sesiwn Fawr yn disgwyl yn eiddgar am gyhoeddiad fyddai’n caniatáu i’r ŵyl gymryd lle yng nghanol tref Dolgellau ar ôl gorfod gohirio yn 2020 o ganlyniad i Covid-19.
Ond o ystyried sefyllfa’r pandemig mae’r trefnwyr wedi penderfynu cynnal gŵyl wahanol ond arloesol yn 2021, er mwyn dathlu traddodiad cerddoriaeth gwerin Cymru a’r byd, ac adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl rithiol llynedd.
Felly ar benwythnos y 16-18 o Orffennaf 2021, bydd modd i fynychwyr danysgrifio i dderbyn pecyn amrywiol o sesiynau cerddorol, llenyddol a chomedi o’r safon uchaf. Bydd Sesiwn Fawr Dolgellau 2021 ar ffurf ddigidol ond yn cwmpasu perfformiadau ‘byw’ gan artistiaid o Gymru a thu hwnt yn ôl ei arfer.
Eglura Guto Lewys Dafydd, Cadeirydd Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau: “Mae hi wedi bod yn gyfnod ansicr i ni fel trefnwyr gŵyl dorfol a phoblogaidd. Ar ôl gorfod gohirio llynedd y gobaith oedd gallu gwahodd pawb yn ôl i Ddolgellau i ddathlu eleni, ond mae’n rhaid i ni warchod iechyd a lles y trigolion lleol yn ogystal â mynychwyr yr ŵyl a’n gwirfoddolwyr. Felly cynnal digwyddiad rhithiol fyddwn ni unwaith eto eleni, a dangos cefnogaeth i’n artistiaid.”
Meddai Ywain Myfyr, Ysgrifennydd yr Ŵyl, “Rydyn ni’n falch fod modd i ni addasu arlwy’r Sesiwn Fawr er mwyn medru parhau i gynnig adloniant i bobl yn ystod cyfnod mor ansicr. Gan obeithio y bydd amgylchiadau yn caniatáu, edrychwn ymlaen at wahodd ein cynulleidfa triw yn ôl i Ddolgellau yn 2022, pan fydd y Sesiwn Fawr yn dathlu pen-blwydd yn 30 oed.”
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei gyhoeddi ar y wefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â swyddogdatblygu@sesiwnfawr.cymru neu 07703 207261.