7yh, Nos Sadwrn 18fed Gorffennaf 2020, Tudalen Facebook Sesiwn Fawr Dolgellau
Er nad oes Sesiwn Fawr Dolgellau eleni, pleser mawr yw cyhoeddi y byddwn yn cynnal Sesiwn Fawr Digidol nos Sadwrn yma, yr 18fed o Orffennaf. Ymunwch â ni i ddathlu’r gorau o gerddoriaeth gwerin a cherddoriaeth Cymraeg o foethusrwydd eich cartref! Bydd y cyfan yn cychwyn am 7yh nos Sadwrn ar ein tudalen Facebook. Peidiwch â’i fethu! Byddwn yn cyhoeddi manylion dros y dyddiau nesaf.