Mae posteri blynyddol y Sesiwn Fawr yn ran annatod o hanes yr ŵyl erbyn hyn, a nifer o bosteri’r gorffennol yn ddarnau eiconig o waith celf. Felly rydym yn falch o gael rhannu poster Sesiwn Fawr Digi-Dol 2021 gyda’r byd, a ddyluniwyd gan yr amryddawn Sioned Medi. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am yr ŵyl ei hun gyda chi o fewn yr wythnos.
