
Taith y Llwybr Chwedlau, 11 bore Sadwrn
Bydd taith y Llwybr Chwedlau yn cychwyn o sgwâr Dolgellau am 11 bore Sadwrn y Sesiwn Fawr. Taith gerdded o amgylch y dre i glywed ychydig o hanes Dolgellau yng nghwmni Caeo Harri Hughes, Gwilym Bowen Rhys, Elidyr Glyn ac eraill. Ydych chi’n gwybod y cysylltiad rhwng Dolgellau a’r Gorllewin Gwyllt? A pham bod dwylo plant wedi’u naddu ar garreg fedd ym mynwent yr eglwys?
Sgwrs Sadwrn (i ddysgwyr), Gwin Dylanwad
Cyfle i ymarfer eich Cymraeg gyda Nicolas Davalan – sy’n gerddor a thiwtor Cymraeg i Oedolion.
Tŷ Siamas, prynhawn Sadwrn
Tai Tafarndai a Gwestai Dolgellau
Cyflwyniad gan yr awdur a’r cyn archifydd Merfyn Wyn Tomos. Bydd y sgwrs hon o ddiddordeb mawr i fynychwyr y Sesiwn gan y bydd Merfyn yn sgwrsio am hanes tafarndai’r dref, yn dilyn cyhoeddi’r bedwaredd gyfrol yng nghyfres ‘Dolgellau’.
Cylchu Cymru
Yr awdur Gareth Evans-Jones sy’n cyflwyno ei gyfrol ‘Cylchu Cymru’. Dyma gyfrol o ddarnau o lenyddiaeth sy’n cynnig mewnwelediad cryno i leoliadau – eu straeon, hanes, chwedloniaeth, a’u cyfaredd. Teflir goleuni ar fannau amrywiol o Fôn i Fynwy, ar hyd yr arfordir a Chlawdd Offa. Mae Gareth Evans-Jones yn awdur, yn ddramodydd ac yn ddarlithydd. Ceir ffotograffau i gyd-fynd â phob lle, a dyluniwyd gan Olwen Fowler.
Yr ifanc a ŵyr
Trafodaeth banel ar faterion gwleidyddol o bwys i bobl ifanc. Bydd pynciau yn cynnwys yr argyfwng tai, swyddi, y ‘brain drain’, ag addysg. Ymysg y panelwyr bydd ein haelod seneddol lleol Liz Saville-Roberts a Chadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol.
Tradd-OD
Dyma gyfle i glywed ffrwyth llafur y prosiect ‘Tradd-OD’. Ym mis Chwefror, gyda chefnogaeth ‘Youth Music Incubator Fund’ Cyngor Celfyddydau Cymru, bu i Gerdd Gymunedol Cymru gydweithio gyda Thŷ Siamas a Hwb Chwedleua Myseliwm i gynnig Tradd-OD – cyfle unigryw i symud hen draddodiad Cymreig ymlaen i’r oes fodern, a hynny o dan adain y fideograffydd a’r cerddor arbrofol Glyn ‘FFRWD’ Roberts, a’r hynod amryddawn Mair Tomos Ifans.
Yr Uffern Fach
I gloi sgyrsiau diwylliannol a llenyddol bydd yr Uffern Fach ymlaen eto eleni yn Nhŷ Siamas wrth i griw newydd (sy’n cynnwys ambell i sypreis) gynnig awgrymiadau i’w danfon i’r Uffern Fach!
Tŷ Siamas, Nos Sul
Noson gomedi
Pa ffordd well i gloi’r penwythnos na chwerthin? Bydd y noson gomedi yn nol eto eleni er mwyn dod a dathliadau’r Sesiwn i ben ar nos Sul yn Nhŷ Siamas. Dan Thomas fydd yn arwain y noson gyda Mel Owen, Caryl Burke, Steffan Alun, Dan Griffith a Hywel Pitts yn perfformio.