Pleser mawr yw cyhoeddi manylion Sesiwn Fawr Digidol. Bydd y cyfan yn dechrau am 7yh nos Sadwrn gyda Sesiwn ar y Sgrin, rhaglen wedi’i gyflwyno gan Ffion Dafis gyda rhai o wynebau fwyaf cyfarwydd yr ŵyl gan gynnwys Gwilym Bowen Rhys, Bwncath, Mared a Patrick Rimes.
Am 8yh byddwn yn darlledu Y Sesiwn Werin, cyfle i fwynhau caneuon ac alawon traddodiadol sy’n dal ysbryd yr ŵyl gyda Gwerinos, Y Davalaniaid, Huw a Sion Roberts a Band Arall.
Bydd y cyfan yn cael ei ddarlledu oddi ar ein tudalen Facebook ac ar ap AM o 7yh nos Sadwrn yma. Peidiwch â’i fethu!
Bydd ambell i sgwrs lenyddol hefyd yn cael eu Huwchlwytho yn syth i wefan Sesiwn Fawr Dolgellau.