Mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn ymfalchio bod yr Ŵyl yn un deuluol a chymunedol ei naws a’i natur.

Ar ôl llwyddiant cyflwyno’r ardal newydd sbon llynedd, bydd y Pentre’ Plant yn ôl eleni wedi ei leoli yn y Parc, ac yn cynnig adloniant i blant a theuluoedd ar y prynhawn Sadwrn gyda sesiynau crefft, sgiliau syrcas, pypedau, paentio wynebau a llawer mwy i’w mwynhau yn rhad ac am ddim!