
Un o’r pethau cyntaf mae pobl yn ei wneud wedi cyrraedd Dolgellau yw mynd am dro o amgylch ei strydoedd culion. Gyda dros 230 o dai wedi eu nodi ar restrau cadwraeth trefol, mae hi’n dref hynod dlws â chyda cymeriad cwbwl unigryw ei hun.
Wrth grwydro o un stryd i’r nesaf, gwelwch stamp hanes ar y dref, o Oes y Crynwyr i dwf y capeli, o weddillion y diwydiant gwlân i’r aur sydd yn dal wedi ei guddio dan fryniau cyfagos.
Mae’r dref wedi ei leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ac fe’i ddefnyddir fel canolfan i nifer o ddigwyddiadau awyr agored. O fewn ugain munud o ganol Dolgellau, gallwch fod yn cerdded ar lwybrau Cader Idris, rhwyfo ar Lyn Tegid, seiclo lawr llwybr yr Afon Fawddach, pysgota yn Nhal-y-Llyn neu dianc i Lynoedd Cregennan.
Os cewch gyfle, byddai’n werth aros yn yr ardal am rai dyddiau wedi’r Sesiwn er mwyn ei chrwydro ymhellach.
I wybod mwy am dref y Sesiwn, darllenwch y darn hwn ar wefan croeso.cymru.