Dolgellau
Y Sesiwn Fawr a’r Gader yw rhai o brif atyniadau ymwelwyr i Ddolgellau bob blwyddyn. Ond, wrth grwydro’r dref hynafol sy’n frith o gaffis, siopau a thafarndai annibynnol, fe welwch fod mwy i Ddolgellau na cherddoriaeth a cherdded…
Wrth grwydro strydoedd cul, igam-ogam y dref, gwelwch fod ôl ei hanes wedi ei gerfio’n ddwfn yn ei maen, gyda dros 230 o dai Dolgellau wedi eu nodi ar restrau cadwraeth drefol – y crynodiad uchaf i unrhyw dref yng Nghymru! O Oes y Crynwyr i dwf y capeli, o weddillion y diwydiant gwlân i’r aur sydd yn dal i guddio dan fryniau cyfagos – mae’r dref hynod dlws hon yn llawn trysorau pensaernïol y gellir eu darganfod ar droed…
Mae’r dref yn gist o siopau bychain annibynnol sy’n llawn trysorau i ddewis ohonynt, ac mae gwledd o gaffis a bwytai yn disgwyl i’ch llonni a’ch llenwi yn Nolgellau hefyd – cofiwch ymweld â nhw tra ‘da chi yma.
Ar groesffordd Cymru, mae Dolgellau yn ganolfan berffaith i ddarganfod de Eryri hefyd. O fewn ugain munud o ganol Dolgellau, gallwch fod yn cerdded un o lwybrau Cader Idris, rhwyfo ar Lyn Tegid; seiclo, cerdded neu fynd mewn cadair olwyn i lawr y Llwybr Mawddach yn dilyn yr hen reilffordd i gyfeiriad y Bermo; pysgota yn Llyn Mwyngil yn Nhal-y-llyn; neu ddianc i lonyddwch Llynnoedd Cregynnan – sydd hefyd yn le gwych i syllu ar y sêr ac edmygu awyr y nos!
I be cadw’r hwyl i gyd at benwythnos y Sesiwn? Gwnewch wyliau iawn ohoni, ac arhoswch am sbelan. Mae hen ddigon i wneud yma, a chroeso cynnes yn eich disgwyl yn Nolgellau dros benwythnos y Sesiwn Fawr, a thu hwnt.
