Cwestiynau cyffredin

Angen mwy o wybodaeth am Sesiwn Fawr Dolgellau? Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin, neu cysylltwch!

LLE GA’I DOCYN?

Mi fydd tocynnau ar werth ar 28/02/2026 yn Nhŷ  Siamas, Dolgellau am un diwrnod yn unig, ac am 10% o ostyngiad (rhwng 10:00 ac 14:00) Fel arall mi fydd nhw yma ar-lein o 01/03/2026 ymlaen!

PROBLEM HEFO FY NHOCYN!

Cysyllta â swyddogdatblygu@sesiwnfawr.cymru gydag unrhyw ymholiadau tocynnau.

YDYCH CHI’N GWERTH TOCYN DIWRNOD?

Yndan, mae nifer o docynnau dydd ar gael yma ar gyfer y prif lwyfan yng nghefn Y Ship, gyda mynediad i’r lwyfan yn Eglwys y Santes Fair wedi ei gynnwys yn nhocyn Dydd Sadwrn!

Nodwch fod tocynnau ar gyfer y gig yn Eglwys y Santes Fair ar nos Iau Thursday 16/07 yn cael ei werthu arwahan.

 

PRYD FYDDA I’N DERBYN FY NHOCYN?

Dylet ti dderbyn dau ebost gan tickettailor wrth i ti archebu – bydd yr ebost cyntaf yn cadarnhau dy archeb, ar ail yn cynnwys dy e-docyn ar ffurf QR. Galli di arbed hwn i dy ffôn, neu ei argraffu i ddod hefo ti ar y penwythnos. Cofia ddefnyddio cyfeiriad ebost fyddi di’n dal i’w ddefnyddio erbyn Gorffennaf! Os na fyddi di wedi derbyn dy docyn o fewn 24 awr i archebu – cysyllta â swyddogdatblygu@sesiwnfawr.cymru.

BLE MAE’R SESIWN FAWR?

Wel, yn Nolgellau. Yn dilyn traddodiad yr ŵyl, bydd y Sesiwn Fawr yn cael ei chynnal ar draws amrywiol lwyfannau tafarndai a busnesau’r dref. Os wnei di anelu at ganol y dref / Sgwâr Eldon – wnei di ddim ei methu!

SUT MAE CYRRAEDD Y SESIWN FAWR?

Galli ddod ar fws, trên neu mewn car – edrycha YMA am ragor o fanylion

PRYD MAE’R ŴYL YN DECHRAU?

Bydd Sesiwn Fawr Dolgellau 2026 yn dechrau hefo cyngerdd agoriadol yn Egwlys y Santes Fair, 19:30 nos Iau 16 o Orffennaf 2026. Bydd y dathliadau’n parhau hyd nos Sul 19 Gorffennaf. Cadwa lydad ar ein amserlen am ragor o fanylion.

BLE MAE’R MAES PARCIO AGOSAF?

Y maes parcio mwyaf, a mwyaf cyfleus yng nghanol y dref yw Y Marian Mawr (LL40 1UU). Llai na’ 5 munud ar droed o lwyfannau’r dref a’u bwrlwm.

YDI’R BAR A STONDINAU YN DERBYN TALIADAU CERDYN?

Ydyn – mae nhw’n derbyn taliadau cerdyn ac arian parod. Mae twll yn y wal HSBC wedi ei leoli ar y Sgwâr hefyd.

Oes gen ti ragor o gwestiynau?