Lle caf afael ar docynnau?

Gellir prynu eich tocynnau o’n siop arlein yma.

Lle caf aros yn ystod yr wyl?

Mae llawer o lefydd i aros yn Nolgellau yn ystod y sesiwn – dyma ychydig o’n syniadau

Oes digwyddiadau i blant/teuluoedd?

Rydym yn falch fod y Sesiwn yn ddigwyddiad ar gyfer y teulu gyfan, a bydd digon i gadw’r teulu gyfan yn brysur dros y penwythnos. Darllenwch am bethau ar gyfer y teulu yma.

Lle caf lenwi fy mol a thorri fy syched?

Mae llawer o lefydd i yfed a bwyta o fewn 200 llath i ganol y dref sydd yn cynnig ystod o brydau – caffi, sgoldion, bwytai, tafarndai a.y.y.b – darllenwch mwy yma.

Oes modd i mi ddod ag offeryn efo fi?

Wrth gwrs! Bydd ambell i sesiynnau jamio yn mynd ymlaen yn Nolgellau dros penwythnos y Sesiwn – darllenwch yma.

Sut mae cyrraedd yr Ŵyl?

Defnyddiwch ein map arlein i gael cyfarwyddiadau i Ddolgellau o unman.

Beth arall sydd i'w wneud yn yr ardal?

Mae llawer i wneud yn Nolgellau a’r cyffiniau – o bori trwy’r siopau lleol i brofi cefn gwlad Cymru ar ei gorau. Gweler mwy o wybodaeth yma.