GORFFENNAF 19-21 2019

Wigwam

Wigwam

Pryd: 20:00 20/07/2019

Lle: Y Clwb Rygbi

Mae Wigwam yn fand roc a rol ifanc o Gaerdydd. Ffurfiwyd y grwp yn 2017 gan Gareth Scourfield, Elis Penri, Rhys Morris, Griff Daniels a Dan Jones. Gosododd Wigwam eu marc ar gystadleuaeth ‘Brwydr y Bandiau’ Yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018 ar ôl flwyddyn o chwarae gigs yn gyson dros Dde Cymru. Treuliodd y band hanner cyntaf 2018 yn gweithio yn galed ar eu halbwm cyntaf, Coelcerth, o dan arweiniad y cynhyrchwr chwedlonol Mei Gwynedd. Daeth y sengl, Mynd a Dod, cyn rhyddhau’r albwm, a chafodd ymateb gwych gan gynulleidfaoedd a DJs radio. Dilynodd yr albwm mis yn ddiweddarach, a chafodd ei henwi ar restr 10 albwm gorau 2019 Y Selar. Mi fydd Wigwam yn rhyddhau sengl newydd, ‘Rhyddid’, i gyd-fynd gyda’u taith o Gymru dros yr haf, sy’n cynnwys gigs yn Nhafwyl a Maes B. Maent yn edrych ymlaen yn fawr i chwarae yn Nolgellau am y tro cyntaf.


Gadael Ymateb