GORFFENNAF 20-22 2018

Patrobas

Patrobas

Pryd: 21/07/2018

Lle: Ar Fwrdd Y Llong

Ymysg eu dylanwadau, mae Patrobas yn rhestru grwpiau fel Old Crow Medicine Show a Mumford and Sons. A hwythau’n grŵp ifanc o Lŷn mae’n debyg nad yw’n syndod bod Cowbois Rhos Botwnnog yn un o’r grwpiau Cymraeg sydd wedi dylanwadu arnyn nhw, yn ogystal â Gai Toms. Mae sŵn y grŵp yn un unigryw – mae’r dylanwadau gwerin yn amlwg, ond wedi plethu gyda hynny mae sŵn roc sy’n creu potes ddiddorol gyda digon o fynd i’r gerddoriaeth. Yn sicr, mae’n fath o gerddoriath sy’n cael pobl ar eu traed mewn dim wedi iddynt gychwyn eu perfformiad bywiog.

Leave a Reply