GORFFENNAF 19-21 2019

Los De Abajo

Pryd: 19/07/2019

Lle: Gwesty'r Ship

Daw’r band Los de Abajo yr holl ffordd o Fecsico i’n diddanu, ac maent yn dychwelyd i Ddolgellau ar ôl perfformio ar lwyfan y Sesiwn Fawr am y tro cyntaf yn ôl yn 2006. Mae’r wythawd yn cael eu hysbrydoli gan amrywiaeth o gerddoriaeth, gan gynnwys roc, salsa a reggae. Ers sefydlu yn 1992 mae’r band wedi gwneud i bobl ddawnsio mewn dros 30 o wledydd, ac maent wedi perfformio mewn amrywiol wyliau, gan gynnwys Glastonbury a WOMAD.

Gadael Ymateb