GORFFENNAF 20-22 2018

Bwncath

Bwncath

Pryd: 20/07/2018

Lle: Ar Fwrdd Y Llong

Bwncath yw grŵp Elidyr Glyn a Meredydd Wyn.
Ffurfiwyd y grŵp ym mis Mehefin 2015 ond bu’r ddau yn jamio gyda’i gilydd ers blynyddoedd. Elidyr oedd enillydd cyntaf gwobr Tlws Sbardun, a hynny yn Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau y llynedd. Mae Elidyr hefyd yn canu gyda Gwilym Bowen Rhys.
Bu Gwilym ac Elidyr ar daith o gwmpas Gwlad y Basg a Galicia yn ddiweddar gan berfformio mewn gwyliau gwerin amrywiol. Maent hefyd wedi bod ar daith yn canu plygain.
Bu Bwncath yn rhan o gyfres sesiwn Sbardun gan BBC Radio Cymru gyda’r trac Yr Ofn yn drac yr wythnos.

Leave a Reply