GORFFENNAF 19-21 2019

Bwca

Bwca

Pryd:

Lle:

Band pump aelod o Aberystwyth a Bro Ddyfi yw Bwca sydd yn cynnwys Steff Rees (llais a gitâr), Ffion Evans (llais a thrwmped), Rhydian Meilir Pughe (drymiau), Kris Jones (gitâr) ac Alun Williams (gitâr fas). Gan fflyrtio gyda sawl genre cerddorol mae Bwca yn cyfuno themâu amserol, geiriau crafog ac alawon bachog sydd yn ein atgoffa o rhai o fandiau’r 70au ond yn ei gyflwyno mewn modd ffres ac egnïol yn fyw

Mae tri o draciau cyntaf Bwca sef Pawb di Mynd i Gaerdydd, Hoffi Coffi a Cno dy Dafod i’w clywed ar BBC Radio Cymru yn aml. I ddysgu mwy am Bwca chwiliwch am @bwcacymru ar Soundcloud, Facebook, Instagram a Twitter.

Gadael Ymateb