Ffurfwyd Ail Symudiad yn Aberteifi ym 1978. Roedd y band wedi eu dylanwadu gan y mudiad pync a ‘new wave’. Maent yn parhau i ganu ei clasuron megis Rifiera Cymraeg, Geiriau a Garej Paradwys 40 mlynedd yn ddiweddarach! Bydd ei pherfformiad yn y Sesiwn Fawr ar y nos Wener yn sicr o fod yn un o uchafbwyntiau’r Sesiwn Fawr.
