Hygyrchedd

Rydyn ni eisiau i bawb gael mynediad i fwynhau Sesiwn Fawr Dolgellau felly rydyn ni'n gweithio ar wella hygyrchedd i'n mynychwyr o flwyddyn i flwyddyn.

Cadeiriau Olwyn:
Mae llawer o’n llwyfannau wedi eu lleoli mewn hen adeiladau ar draws y dref, a nid yw pob un yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Rydym yn argymell i chi gysylltu ymlaen llaw gydag unrhyw gwestiynau hygyrchedd cyn prynu tocyn.Anfonwch eich cwestiynau at swyddogdatblygu@sesiwnfawr.cymru.