Cyrraedd y Sesiwn

Car

Mae Dolgellau ar groesffordd Cymru yn ne Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r A470 yn pasio drwy’r dref yn cysylltu’r gogledd a’r de, yr A494 yn ein cysylltu â’r gogledd ddwyrain, a’r A487 yn ein cysylltu â’r de orllewin.

Y Marian Mawr (LL40 1UU) ar waelod y Bont Fawr ydi’r maes parcio mwyaf cyfleus yng nghanol y dref.

Bws
‍‍
T2 Lloyd Coaches, Aberystwyth - Bangor

T3 Traws Cymru, Abermaw - Wrecsam

Trên

Os wyt ti’n dod ar drên, Morfa Mawddach ydi’r orsaf agosaf i Ddolgellau - ond efallai mai Machynlleth neu’r Bermo / Abermaw fyddai’r opsiynnau fwyaf cyfleus! Os yn teithio o’r de neu ddwyrain, cymra’r trên i Fachynlleth, ac yna bws T2 Lloyd’s Coaches o Fachynlleth i Ddolgellau (tua hanner awr). O gyfeiriad Pwllheli - cymra’r trên i Abermaw, ac yna’r bws T3 i Ddolgellau (tua hanner awr).