Amdanom ni

Ers 1992, mae miloedd ohonnoch wedi heidio i Ddolgellau pob Gorffennaf i fwynhau hynt a helynt y Sesiwn Fawr - ein gŵyl werin fywiog, wedi ei threfnu gan griw o wirfoddolwyr lleol.

Dros dri degawd, mae’r Sesiwn Fawr wedi llwyddo i ddenu rhai o artistiaid mwyaf ‘Cŵl Cymru’ gan gynnwys Cerys Matthews a’r Super Furry Animals, yn ogystal â rhoi llwyfan i fandiau lleol fel Frizbee (ac Yws Gwynedd yn ddiweddarach), Sŵnami a Lewys i ddatblygu a hawlio eu lle ar flaen y sîn gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. 

Ar benwythnos cynta’r gwyliau haf pob blwyddyn (*nodyn i dy ddyddiadur), mae’r Sesiwn Fawr yn troi strydoedd Dolgellau yn faes gŵyl werin fywiog, gyda cherddoriaeth, llên, comedi, a gweithgareddau i blant yn cael eu llwyfannu ar draws amrywiol leoliadau’r dref. Erbyn hyn mae prif lwyfan yr ŵyl wedi ei lleoli yng nghefn Gwesty’r Ship, gyda llwyfannau amrywiol yn nafarndai annibynnol y dref hefyd fel yr Unicorn, y Stag, Y Cross Keys a'r Torrent.

Os oes gennych gitâr yn yr atig, bodhran yn y cwpwrdd, neu ffidil dan y gwely, yna dewch â nhw! Mae hi’n bur debyg bydd sesiynau jamio yn codi cân mewn ambell i dafarn hefyd!