Dolgellau

Ymweld â Dolgellau ar gyfer y Sesiwn Fawr? Arhoswch o gwmpas - mae gennym ni ddigon i'w gynnig!

Gwyliau bach yn Nolgellau? Gyda gig arbennig yn dechrau Sesiwn Fawr 2024 yn Eglwys y Santes Fair ar nos Iau 18/7, dyma’r esgus perffaith i chi neud penwythnos hir ohoni a mwynhau’r hyn sydd gan Ddolgellau i’w dathlu tu hwnt i’r Sesiwn…

Adeiladau hen ac hynod:
Wrth grwydro strydoedd cul, igam-ogam y dref, fe weli fod ôl ei hanes wedi ei gerfio’n ddwfn yn ei maen, gyda dros 230 o dai Dolgellau wedi eu nodi ar restrau cadwraeth drefol - y crynodiad uchaf gan unrhyw dref yng Nghymru! O Oes y Crynwyr i dwf y capeli, o weddillion y diwydiant gwlân i’r aur sydd yn dal i guddio dan fryniau cyfagos - mae’r dref hynod dlws hon yn llawn trysorau pensaernïol i’w darganfod ar droed.

Cofia edrych i fyny wrth grwydro - debyg iawn y gweli di ddrysau uchel a theclynnau codi sy’n brawf o anterth diwydiant tecstilau’r dref, neu ffenestri bychain crwn adeiladau a fu, yn ôl y sôn, yn dai cwrdd cudd ar gyfer y Crynwyr. 

Darllen mwy:
hanes nodweddion trefol Dolgellau.

Am dro ym mro’r Sesiwn:
Os nad wyt ti am fentro fyny at gopa’r Gader ei hun, mae digon o lwybrau mynyddig eraill ychydig llai heriol, sy’n cynnig golygfeydd heb eu ail, fel Llwybr Cynwch neu Moel Offrwm ar ystâd y Nannau yn Llanfachreth, Foel Caerynwch yn Brithdir; neu Lwybr Foel Ispri ger Llanelltyd sydd â maes parcio wrth law, ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.